Cynorthwyydd R’ôl Ysgol (Cyfnod mamolaeth) – Ysgol Gynradd Saundersfoot, Sir Benfro

Dyddiad cau: 30/11/2026

Oriau: 12.5 awr yr wythnos, dydd Llun – dydd Gwener, yn ystod oriau ar ôl ysgol.

Cyflog: Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cymwysterau / profiad gofynnol: 

Hanfodol

  • Meddu ar gymhwyster Gwaith Chwarae Lefel 3 (neu fod yn gymwys i drosglwyddo i un)
  • Meddu ar wiriad manylach dilys gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) sydd wedi’i gofrestru gyda’r gwasanaeth diweddaru, neu fod yn barod i gael gwiriad
  • Hyfforddiant diogelu cyfredol neu fod yn barod i gwblhau’r hyfforddiant cyn dechrau yn y swydd
  • Profiad o weithio gyda phlant oed ysgol [3-11].
  • Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol ag ystod eang o unigolion a sefydliadau.
  • Dangos ystod eang o sgiliau Gwaith Chwarae ymarferol.
  • Y gallu i gyfrannu at gynnal systemau a chofnodion er mwyn gweinyddu’r ddarpariaeth yn effeithiol.

Dymunol

  • Cymhwyster mewn Gofal Plant
  • Tystysgrif Cymorth Cyntaf gyfredol neu fod yn barod i’w chael cyn dechrau yn y swydd
  • Tystysgrif Diogelwch Bwyd Sylfaenol gyfredol neu fod yn barod i’w chael cyn dechrau yn y swydd
  • Profiad o weithio mewn tîm
  • Y gallu i gyfathrebu gan ddefnyddio ystod o ieithoedd gwahanol, e.e. Cymraeg, iaith arwyddion ac ati.
  • Deall a chyfrannu at amgylchedd chwarae cyfoethog, effeithiol, hyblyg ac ysgogol
  • Cyfrannu at gynllunio ar gyfer chwarae plant a phobl ifanc
  • Cydymffurfio â’r rheoliadau Gofal Dydd, gan roi sylw i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir.

Disgrifiad o’r Dyletswyddau:

  • Cyfrannu at ddarparu amgylchedd chwarae cyfoethog, hyblyg ac ysgogol lle gall plant chwarae’n rhydd.
  • Yn ôl yr angen, sicrhau bod plant yn cael eu casglu o’r ysgol/ysgolion. Helpu i gynllunio a pharatoi ar gyfer chwarae, gan gynnwys gweithgareddau, paratoi’r amgylchedd ac adnoddau sy’n diwallu eu hanghenion chwarae unigol.
  • Meithrin perthnasoedd effeithiol a gonest â’r plant a’r bobl ifanc a’u rhieni/gofalwyr.
  • Dilyn canllawiau a gweithdrefnau diogelu fel yr argymhellir gan yr awdurdod cofrestru.
  • Dilyn polisïau a gweithdrefnau’r Clwb, gan gynnwys diogelu, iechyd a diogelwch, ymddygiad, gweithdrefnau brys a chyfrinachedd, fel y’u cymeradwywyd gan yr awdurdod cofrestru.
  • Cymryd rhan mewn adolygu a myfyrio ar y polisïau a’r gweithdrefnau sydd ar waith.

Sut i wneud cais:

Anfonwch eich CV at Cheryl Evans drwy e-bost: sfplaygroupoffice@gmail.com Os byddwch yn gwneud cais ac na fyddwch yn cael cadarnhad gennym drwy e-bost o fewn 48 awr, ffoniwch 07984 756 288.

Lleoliad y swydd: Ysgol Gynradd Saundersfoot SA69 9HB

 

Ymwadiad

Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn hysbysebu swyddi gwag ar ran Aelodau. Dylai darpar ymgeiswyr ddefnyddio’r manylion cyswllt a restrir yn yr hysbyseb i gael rhagor o wybodaeth, a dylent ddelio’n uniongyrchol â’r person sy’n gosod yr hysbyseb, ac nid â Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs.

Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn derbyn cyfrifoldeb am ansawdd na chynnwys yr hysbyseb, nac am arferion cyflogi’r Aelod sy’n gosod yr hysbyseb. Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn cyflogi staff ar ran unrhyw sefydliad arall.

Back to Job Board