07/10/2025 |
Dewch yn Ymddiriedolwr gyda Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs
Dyddiad cau: 24/10/2025
Ydych chi’n angerddol am hawliau plant i chwarae? Yn Clybiau Plant Cymru Kids’ Club, ein gweledigaeth yw gweld Cymru lle mae plant yn chwarae, a chymunedau’n ffynnu. Rydym yn recriwtio Ymddiriedolwyr newydd, gan gynnwys Cadeirydd, Trysorydd, ac Ymddiriedolwr AD, i ymuno â’n Bwrdd.
Amdanom Ni
Rydym yn hyrwyddo Clybiau Gofal Plant All-Ysgol ar hyd a lled Cymru, gan eu cefnogi i ffynnu a dathlu’r effaith sydd ganddynt ar brofiadau plant. Mae ein staff a’n hymddiriedolwyr yn darparu cefnogaeth, hyfforddiant ac eiriolaeth o safon i sicrhau bod gan glybiau sylfaen cadarn er mwyn darparu cyfleoedd gofal plant a chwarae ystyrlon.
Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr Pecyn Ymgeisio
Mae’r Cadeirydd yn arwain y Bwrdd i lywodraethu’n effeithiol, cefnogi’r Prif Swyddog Gweithredol, a sicrhau bod Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn cyflawni ei genhadaeth. Maent yn gweithredu fel llysgennad i’r elusen, gan hyrwyddo hawl plant i chwarae a gwerth Gofal Plant All-Ysgol, gan sicrhau llywodraethu da a chyfeiriad strategol clir.
Trysorydd Pecyn Ymgeisio
Mae’r Trysorydd yn goruchwylio cyllid yr elusen, gan sicrhau cydymffurfiaeth gyfreithiol a statudol a llywodraethu ariannol cadarn. Maent yn cynnal goruchwyliaeth o gofnodion, gweithdrefnau a rheolaethau mewnol, yn cyflwyno adroddiadau ariannol i’r Bwrdd, ac yn cefnogi cynaliadwyedd ariannol hirdymor ar gyfer y sefydliad. Mae’r Trysorydd hefyd yn nodi risgiau ariannol ac yn cynghori’r Bwrdd ar gamau gweithredu priodol.
Ymddiriedolwr Adnoddau Dynol Pecyn Ymgeisio
Mae’r Ymddiriedolwr Adnoddau Dynol yn sicrhau safonau uchel o lywodraethu ar draws polisïau ac arferion Adnoddau Dynol, gan gynnwys recriwtio, cadw staff, perfformiad, gwobrwyo, a datblygu staff/ymddiriedolwyr. Maent yn darparu goruchwyliaeth strategol o gynllunio a lles y gweithlu, yn asesu risgiau a chydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol sy’n newid, ac yn cynghori’r Bwrdd ar adnoddau a datblygu sefydliadol yn unol â nodau’r elusen.
Yr Hyn Rydym yn Chwilio Amdano
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd â diddordeb mawr mewn chwarae a lles plant. Rydym yn arbennig o awyddus i ehangu amrywiaeth ar ein Bwrdd.
Mae rhinweddau hanfodol Ymddiriedolwyr yn cynnwys (gweler disgrifiad y rôl am rinweddau hanfodol sy’n ymwneud â phob un):
- Profiad fel ymddiriedolwr
- Sgiliau arweinyddiaeth strategol a chynhwysol cryf.
- Y gallu i wrando, cyfathrebu a hwyluso dadl adeiladol.
- Ymrwymiad i degwch, amrywiaeth a chynhwysiant.
- Parodrwydd i eiriol dros ein helusen drwy rwydweithiau a digwyddiadau.
Ymrwymiadau Allweddol
- Rôl wirfoddol: ad-dalir treuliau rhesymol.
- Ymrwymiad o tua un i ddau ddiwrnod y mis.
- Mynychu pum cyfarfod Bwrdd y flwyddyn (gan gynnwys cyfarfodydd eithriadol achlysurol).
- Cyswllt rheolaidd â Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, y Prif Weithredwr a’r uwch dîm rheoli.
- Sesiwn strategaeth flynyddol a digwyddiadau achlysurol.
- Cynhelir cyfarfodydd ar-lein yn bennaf, gyda rhai sesiynau wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd, Bae Colwyn, neu Crosshands.
Sut i Ymgeisio
Anfonwch CV a llythyr eglurhaol (uchafswm o 2 dudalen) i info@clybiauplantcymru.org erbyn 24/10/2025
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol cyn gwneud cais, anfonwch e-bost at janeo@clybiauplantcymru.org i drefnu galwad.
Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal wythnos yn dechrau 10/11/2025