Swyddog Hyfforddi – Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, Caerdydd

Dyddiad cau: 01/12/2025

I gefnogi’r gyfundrefn i gyrraedd ei nodau strategol drwy gyflawni ac asesu hyfforddiant o ansawdd i gefnogi’r Sector Gofal Plant All-Ysgol a’r Gweithlu Gwaith Chwarae.

Teitl y Swydd: Swyddog Hyfforddi

Lleoliad: I weithio o’n swyddfa yng Nghaerdydd, â chytundeb gweithio ystwyth yn ei le. (50:50)

Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos (Dydd Llun – Dydd Gwener)

Cyfradd Dâl: £32,076 pro rata (£33,366 ar lwyddo i dderbyn cadarnhad mewn swydd, fel arfer wedi 6 mis)

Sgiliau a Phrofiad Craidd

  • Gwybodaeth / Profiad mewn Gwaith chwarae ac arferion Gwaith Chwarae cyfredol.
  • Cymhwyster hyfforddiant a phrofiad profedig o hyfforddi oedolion.*
  • Dyfarniad Asesu perthnasol, megis TAQA, D32 & D33, A1 neu Tystysgrif L3 Mewn Asesu Cyflawniad Gyrfäol. *

Er ein bod yn chwilio am geisiadau gan Swyddog Hyfforddi cwbl gymwysedig, rydym hefyd yn agored i ystyried ymgeiswyr ar gyfer y rôl Swyddog Hyfforddi dan Hyfforddiant.
Bydd rhaid i ymgeiswyr ar gyfer y rôl dan hyfforddiant dangos:

  • Gwybodaeth gadarn a ddealltwriaeth o egwyddorion ac arferion Gwaith Chwarae.
  • Profiad cyfredol neu diweddar o weithio mewn lleoliad Gwaith Chwarae.
  • Ymrwymiad cryf i ddatblygiad parhaus, gan gynnwys parodrwyd i astudio ar gyfer cymhwyster dysgu ac asesu (wedi’i gefnogi gan y sefydliad).

Bydd y rôl dan hyfforddiant yn cael ei cynnig ar gyflog dechrau is (£30,285), ac yn codi ar ôl cyflawni cymhwyster a diwallu’r cerrig milltir hyfforddiant.

 

Pecyn Cais

 

 

Gwnewch gais yma
Back to Job Board