01/07/2026 |
Trefnydd Chwarae – Caerdydd
Dyddiad cau:
Oriau: 22.5 awr yr wythnos, gan gynnwys dydd Mercher, yn ystod y tymor ac yn ystod y gwyliau, yn ystod y diwrnod ysgol ac ar ôl ysgol.
Cyflog: £25,183 – £27,269
Cymwysterau / profiad gofynnol:
- Cymhwyster priodol mewn Gwaith Chwarae ar Lefel 2/Lefel 3
- Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus
- Profiad sylweddol profedig o weithio gyda phlant mewn amgylchedd gwaith chwarae.
- Profiad o weithio mewn darpariaeth chwarae mynediad agored
- Profiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc anabl a/neu â phlant a phobl ifanc ag ymddygiad heriol
- Meddu ar wybodaeth a phrofiad ymarferol o faterion chwarae a gwaith chwarae
- Profiad o weithio yn yr awyr agored gyda phlant a phobl ifanc mewn amgylchedd chwarae
- Gweithio mewn cymunedau lleol i hyrwyddo gwerth chwarae a’r lleoliad chwarae.
- Gweithio gydag asiantaethau eraill mewn partneriaeth i wella cyfleoedd chwarae’r plant.
Disgrifiad o’r dyletswyddau: Cynorthwyo i ddarparu darpariaeth chwarae mynediad agored a mynediad cyfyngedig ledled Caerdydd, gan weithio gyda phlant 5–14 oed o bob gallu.
- Cynorthwyo’r Uwch-drefnwyr Chwarae yn llawn i weithredu a datblygu cyfleoedd chwarae o safon i blant yn llwyddiannus.
- Cynorthwyo i gadw cofnodion a chymryd rhan mewn gwerthusiadau rheolaidd o gynlluniau gwaith.
- Cynorthwyo i sicrhau bod yr ardaloedd chwarae yn cael eu cadw’n lân ac yn daclus, ac yn rhydd o offer diffygiol a deunyddiau peryglus.
- Sicrhau bod y cyfleoedd chwarae o safon briodol i ddiwallu anghenion chwarae’r holl blant sy’n mynychu.
- Cynorthwyo i gymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod plant anabl yn cael eu cynnwys yn llawn yn y ganolfan chwarae ac yn y rhaglen weithgareddau.
- Bod yn eiriolwr dros hawl plant i chwarae yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, a gweithio o fewn egwyddorion gwaith chwarae.
- Cysylltu â’r gymuned leol er mwyn hyrwyddo gwaith y gwasanaeth a chynnig gwybodaeth, arweiniad a chymorth i fentrau lleol.
- Cynorthwyo i sicrhau bod gofynion deddfwriaethol yn cael eu bodloni.
- Cynorthwyo i weithredu Cynllun Digonolrwydd Chwarae Caerdydd ac amcanion allweddol Strategaeth Chwarae Caerdydd.
Sut i ymgeisio: Gweler y wefan hon am ragor o wybodaeth
https://www.jobscardiffcouncil.co.uk/internal/jobs/trfnydd-chwarae-peo05421
Lleoliad y swydd: Caerdydd, CF24 5RR
Ymwadiad
Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn hysbysebu swyddi gwag ar ran eu Haelodau. Am ragor o wybodaeth, dylai darpar ymgeiswyr ddefnyddio’r manylion cyswllt sydd yn yr hysbyseb a delio’n uniongyrchol â’r person a osododd yr hysbyseb, ac nid Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs.