26/08/2025 |
Trefnydd chwarae – Gwasanaethau Chwarae Caerdydd
Dyddiad cau: 31/08/2025
Sefydliad: Gwasanaethau Chwarae Caerdydd
Lleoliad: Caerdydd
Oriau gwaith: 20 awr yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn (fel arfer yn gweithio 2pm i 6pm)
Contract: Rhan Amser Dros Dro
Cyflog: £25,183 – £27,269
Dyddiad Cau: 13 Gorffennaf 2025
Mae Trefnwyr Chwarae’r Gwasanaethau Chwarae Plant yn cyfrannu at weithredu, datblygu a darparu cyfleoedd chwarae o safon yn llwyddiannus yn ein lleoliadau chwarae ledled y ddinas.
Byddwch yn rhan o dîm chwarae deinamig sy’n darparu cyfleoedd chwarae creadigol, hwyl ac ysgogol sy’n canolbwyntio ar y plentyn, rydym yn chwilio am Drefnydd Chwarae brwdfrydig i ymuno â’r Tîm Chwarae presennol.
Mae Cymhwyster Gwaith Chwarae L2 yn hanfodol. Dilynwch y ddolen i ddysgu mwy am Gymwysterau Chwarae hanfodol. https://chwarae.cymru/gwaith-chwarae/cymwysterau-a-hyfforddiant/
Gweler y Disgrifiad Swydd a’r Fanyleb Person sydd wedi’u hatodi i gael gwybodaeth bellach am y rôl.
Rhaid i chi fod â phrofiad o weithio gyda phlant mewn amgylchedd gwaith chwarae. Cefnogi plant i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae rhydd.
Profiad o gynllunio, paratoi a darparu amgylchedd chwarae ysgogol, cyffrous a heriol drwy ymgynghori â phlant i rymuso eu chwarae.
Gallu cyfathrebu’n effeithiol â phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd
Ymrwymiad i’r egwyddorion a’r arferion a nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.