22.03.2024 |
Gwyliwch y Gynhadledd a Seremoni Wobrwyo Gofal Plant Allysgol yma
Cynhaliodd Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs ein 3ydd Cynhadledd a Seremoni Wobrwyo Gofal Plant All-Ysgol ar 6 Mawrth 2024. Er y byddai wedi bod yn hyfryd dathlu cyflawniadau yn bersonol, fe wnaeth y platfform ar-lein, a oedd yn ffrydio’n fyw ar Youtube, wella hygyrchedd ac roeddem yn falch o groesawu cymaint o Glybiau Gofal Plant All-Ysgol i’n digwyddiad gyda dros 200 o ymweliadau hyd yma!
Os wnaethoch chi fethu’r digwyddiad, peidiwch â phoeni, gallwch ei wylio yma https://www.youtube.com/watch?v=iXhz-TZJaG8
Ar ddiwedd y fideo fe welwch QR sy’n arwain at y ffurflen werthuso; bydd cwblhau’r ffurflen grantiau’n gwarantu i chi fynediad at fag rhoddion rhithiol yn llawn o adnoddau gwerthfawr Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs ynghyd ag adnoddau gan ein noddwyr.
Hoffem ddiolch i’n siaradwyr gwadd trwy ddarparu gwybodaeth mor addysgiadol, perthnasol a diddorol: @doctorcymraeg, Stephen Rule, Laura Williams & Natalie Vater, CREW a Keith Towler, Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Chwarae Cymru.
Dyfarnwyd deg gwobr, a chawsom lawer o enwebiadau teilwng ar eu cyfer, sy’n dangos y gwaith gwych sy’n digwydd yn y sector i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i blant, teuluoedd a chymunedau.
Llongyfarchiadau i’r holl Weithwyr Chwarae, Gwirfoddolwyr, Rheolwyr, Pwyllgorau a Chlybiau a enwebwyd ledled Cymru a’r enillwyr. Mae wir yn fraint eich cefnogi chi a’ch clybiau.