13.09.2024 |
Grantiau i Glybiau Cymraeg eu Hiaith
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Grant i gefnogi cofrestru ag AGC
A ydych chi’n Glwb Gofal Plant Allysgol cyfrwng- Cymraeg neu ddwyieithog sydd heb ei gofrestru?
Mae’n bleser gennym gyhoeddi cynllun grant i gefnogi gyda chostau sy’n gysylltiedig â chyflwyno cais i gofrestru ag AGC ac ennill y cofrestriad.
Mae llawer o wahanol glybiau a gweithgareddau ar gael i blant a rhieni ddewis ohonynt. Mae bod yn gofrestredig ag AGC yn cydnabod anghenion rhieni/gofalwyr sy’n gweithio/hyfforddi, drwy ganiatáu hyblygrwydd i agor yn hirach ac ymestyn i ofal cyn-ysgol, cofleidiol a gwyliau, ac yn eu galluogi i gael mynediad at gynlluniau cymorth ariannol fel Gofal Plant Di-dreth.
Mae cofrestru yn ategu at eich enw da, drwy ennyn ffydd ynoch fel darparwyr gofal plant ysgogol ac o ansawdd.
Os ydych yn Glwb Gofal Plant All-Ysgol cyfrwng- Cymraeg neu ddwyieithog sydd heb gofrestru ag AGC, ond â diddordeb mewn gwneud hynny, gofynnir ichi gysylltu â’ch swyddfa ranbarthol: https://clybiauplantcymru.org/cy/cysylltwch-a-ni/