
14.03.2025 |
Enillwyr Gwobr Datblygiad Proffesiynol 2025 yng Nghynhadledd Genedlaethol Gwaith Chwarae
Annwyl gydweithiwr,
Mae’n bleser mawr gen i rannu â chi mai ein Tîm Hyfforddi ni oedd enillwyr y Wobr Datblygiad Proffesiynol yng Nghynhadledd Genedlaethol Gwaith Chwarae eleni.
Fel y gwyddoch, yma yn Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs mae gennym Dîm Hyfforddi sy’n hynod frwdfrydig ac angerddol am y sector Gwaith Chwarae ac uwchsgilio’r gweithlu i ddefnyddio dull gwaith chwarae ym mhob rhan o’u bywyd, nid yn unig eu bywyd proffesiynol. Mae’r hyfforddiant y maen nhw’n ei gyflenwi yn effeithio’n fawr iawn ar feddyliau dysgwyr a’r ffordd y maent yn gweld chwarae a’u rôl fel Gweithiwyr Chwarae.
Rwy’n falch iawn eu bod wedi eu cydnabod am eu gwaith caled, ac mae’n anrhydedd gennym gael ein dyfarnu’n enillwyr Gwobr Datblygiad Proffesiynol 2025.
Rwyf mor falch o’r gwaith y mae’r sefydliad yn ei wneud i gefnogi Gwaith Chwarae a’r sector Gofal Plant All-Ysgol yng Nghymru, ac mor ddiolchgar fod Dawn, ein Rheolwr Hyfforddiant Cenedlaethol, a’i thim, wedi eu cydnabod am eu gwaith caled.
Jane O’Toole
Prif Swyddog Gweithredol