
29.11.2024 |
Parti Nadolig Winston’s Wish – Caerdydd – 14 Rhagfyr
Elusen profedigaeth yw Winston’s Wish, sy’n cefnogi pobl sy’n ymdopi â cholli drwy angau. Maen nhw’n cynnal parti Nadolig yng Nghaerdydd ar 14 Rhagfyr i ddod â phlant a phobl ifanc sydd wedi profi colled at ei gilydd mewn awyrgylch hamddenol ac anffurfiol, gan roi cyfle i gysylltu, dysgu, ac, yn bwysicaf oll, cael hwyl!