Datganiad Ysgrifenedig: Adolygiad o gyfradd Cynnig Gofal Plant Cymru fesul awr a’r cymorth sy’n parhau ar gyfer gofal plant Dechrau’n Deg

Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cyhoeddi cynnydd yn y gyfradd fesul awr a delir i ddarparwyr gofal plant sy’n darparu’r Cynnig Gofal Plant Cymru i £6.

Bydd y gyfradd hon yn cael ei hadolygu’n flynyddol ac mae’r Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach ar gyfer lleoliadau gofal plant cofrestredig yn barhaol i gefnogi cynaliadwyedd y sector gofal plant.

>> Darllenwch mwy yma  <<

  • Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cyhoeddi cynnydd yn y gyfradd fesul awr a delir i ddarparwyr gofal plant sy’n darparu Cynnig Gofal Plant Cymru o £5.00 yr awr i £6.00 yr awr. Bydd y gyfradd ddiwygiedig yn dod i rym ar 7 Ebrill 2025, sef dydd Llun cyntaf y flwyddyn ariannol newydd.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ychwanegol fel rhan o’r adolygiad i gynyddu arian elfen addysg feithrin y Cynnig ac i gynyddu arian elfen gofal plant Dechrau’n Deg.
  • Mae’r Gweinidog hefyd wedi cyhoeddi cynnydd o 20% yn y tâl y gall darparwyr gofal plant ei godi am fwyd gan rieni sy’n defnyddio’r Cynnig yn eu lleoliad.
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i aelodau CWLWM roi eglurder ar ganllawiau polisi ynghylch codi tâl. Bydd unrhyw newidiadau yn dod i rym ar yr un pryd â’r gyfradd ddiwygiedig.
  • Mae’r datblygiadau hyn yn adeiladu ar y rhyddhad ardrethi busnes o 100% a gyhoeddwyd eisoes ar gyfer darparwyr gofal plant cofrestredig, a’r penderfyniad i adolygu’r gyfradd sy’n daladwy ar gyfer y Cynnig Gofal Plant a gofal plant Dechrau’n Deg yn flynyddol.

 

>> Gallwch ddarllen datganiad ysgrifenedig y Gweinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol yma <<