12.05.2023 |
Wythnos y Cynnig Cymraeg
Mai 15 – 19 2023 yw wythnos y Cynnig Cymraeg
Dyma gyfle i dynnu sylw at fusnesau ac elusennau sy’n ymfalchïo yn y Gymraeg drwy gynnig gwasanaethau Cymraeg i’r cyhoedd.
Dylai siardwyr Cymraeg a dysgwyr gael y cyfle i dderbyn pob math o wasanaethau y Gymraeg. Er mwyn medru byw yn Gymraeg mae angen inni wybod pa wasanaethau sydd ar gael.
Yn ystod yr wythnos byddwn yn dathlu llwyddiant sefydliadau sydd eisoes wedi derbyn y Cynnig Cymraeg a’r rhai sy’n gweithio tuag ato. Byddwn hefyd yn codi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael i’w defnyddio, ac yn annog y cyhoedd i ddefnyddio’r gwasanaethau hyn. Gobeithiwn weld mwyfwy o fusnesau ac elusennau yn defnyddio’r iaith ac yn derbyn y gydnabyddiaeth hon.
Os ydych am wybod mwy am y Cynnig Cymraeg mae croeso i chi gysylltwch â swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.