Wythnos yr Ymddiriedolwr – Comisiwn Elusennau Pecyn Cymorth Cyllid Newydd ar gyfer Ymddiriedolwr

Mae’r Comisiwn Elusennau wedi datblygu pecyn cymorth arian newydd ar gyfer Ymddiriedolwr. Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn arghymell holl Glybiau Gofal Plant All-Ysgol sy’n Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE) i ofalu bod ymddiriedolwr yn wybodol o hyn. Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys: 

  • Meithrin Gwydnwch Ariannol 
  • Rheoli Cyllid – canllaw 5 munud 
  • Rheolaethau ariannol mewnol ar gyfer elusennau 
  • Polisi cronfeydd wrth gefn 
  • Gwella cyllid elusennau 
  • 15 cwestiwn y dylai ymddiriedolwyr eu gofyn 
  • Gweithio ar y cyd 

Fel aelod, gall ein clybiau Gofal Plant All-Ysgol gael mynediad at Camu Allan – Cam 12 trwy ddefnyddio eich mewngofnodi i mewn i’n gwefan ar gyfer ein templed polisi cronfeydd wrth gefn a’n rhagolwg llif arian gyda chyfarwyddiadau manwl. Gall eich Swyddog Datblygu Busnes Gofal Plant eich cefnogi chi a’ch pwyllgor i adolygu eich cyllid. 

Pecyn Cymorth Cyllid Newydd ar gyfer Ymddiriedolwr