Ymgynghoriad ar gofrestru proffesiynol y gweithlu gofal plant a gwaith chwarae

Ydych chi’n meddwl y dylai gweithwyr gofal plant a gwaith chwarae yng Nghymru fod â chofrestr gweithlu? 

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad yn gofyn am farn y gweithlu ar y cwestiwn hwn.  

 Mae’r ymgynghoriad yn gofyn cwestiynau ynghylch a ddylai’r sector gofal plant a gwaith chwarae fod â chofrestr gweithlu ac os felly, pwy ddylai’r gofrestr honno ei chynnwys. 

 Os, yn dilyn yr ymgynghoriad, y penderfynir y dylai’r sector gael cofrestr gweithlu, bydd ymgynghoriad pellach ar y manylion, megis meini prawf cymhwysedd a ffioedd.   

 

Beth yw cofrestr gweithlu? 

Cofrestr gweithlu: 

  • Mae’n rhestru unigolion sy’n cael gweithio mewn sector penodol, neu mewn rolau penodol yn y sector hwnnw.  
  • Mae’n nodi rheolau ynghylch pwy all ymuno â’r gweithlu.  
  • Yn cynnwys Cod Ymarfer Proffesiynol o safonau disgwyliedig a phroses Addasrwydd i Ymarfer. 

 

Mae cofrestr gweithlu yn wahanol i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) sy’n cwmpasu lleoliadau.  Mae cofrestru’r gweithlu yn canolbwyntio ar weithwyr unigol, gan gydnabod eu sgiliau, eu dysgu a’u datblygiad proffesiynol parhaus. 

Cewch fwy o wybodaeth yma:  https://www.llyw.cymru/cofrestrun-broffesiynol-y-gweithlu-gofal-plant-gwaith-chwarae

 

 

I rannu’ch barn, dowch i ymuno â ni yn un o’n digwyddiadau ymgynghori: https://clybiauplantcymru.org/cy/all-training-and-events/