Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru: Llywio Gofal Plant, Gwaith Chwarae a Gweithgareddau i’r Dyfodol

Peidiwch â chael eich gadael ar ôl. Hoffwch ein tudalen [Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs]

Gallai ymgynghoriad Gorchymyn Eithriadau/Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol Llywodraeth Cymru effeithio’n uniongyrchol ar eich gwasanaeth. Ymunwch â ni i weld beth sy’n newid.

CYMRAEG: 📅 16 Hydref | 🕕 10:50 | 💻 Facebook Live

Sesiwn wybodaeth chwarter awr gyda sesiwn Holi ac Ateb ychwanegol. Gwyliwch yr animeiddiad esboniadol munud o hyd yma

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar Orchymyn Drafft Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2026 a’r Cynnig ar gyfer Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol ar gyfer Darparwyr Gofal Plant, Gwaith Chwarae a Gweithgareddau.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn holi barn ar y canlynol:

  • Diweddariadau arfaethedig i’r amgylchiadau lle mae gwasanaethau gwarchod plant neu ofal dydd i blant rhwng 0 a 12 oed wedi’u heithrio rhag gorfod cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru
  • Datblygu Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol ar gyfer darparwyr nad yw’n ofynnol iddynt gofrestru
  • Effaith ehangach y newidiadau hyn, gan gynnwys ar y Gymraeg

📨 Rydym yn annog pawb sydd â diddordeb mewn gofal plant, gwaith chwarae neu weithgareddau plant i rannu eu barn a rhannu’r ddolen ymgynghori ar draws eu rhwydweithiau. Hoffem glywed yn arbennig farn y rhai sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio, gan gynnwys plant, rhieni, a’r sectorau cofrestredig ac anghofrestredig.

📅 Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 3 Tachwedd 2025.

Darllen mwy