100 Pabi, 100 ffordd o Gofio!

Ar Ddydd y Cofio eleni beth am herio’ch clwb i greu 100 papi, pob un mor unigryw â’r plentyn a’i wnaeth? 

Darparwch ddewis o rannau rhydd a defnyddiau wedi’u hailgylchu i’r plant chwilota drwyddynt. Gellir defnyddio ffabrig, botymau, caeadau poteli, cardboard, gwlân, defnyddiau naturiol ac adnoddau aml-bwrpas eraill, oll i greu pabis ym mha ffordd bynnag y dymuna’r plant. Does ‘na ddim ffordd cywir neu anghywir o gymryd rhan.   

Munud i Feddwl  

Gall Dydd y Cofio fod yn gyfle i fyfyrio ar y bobl, y lleoedd a’r pethau sydd o bwys i ni, tra’n cofio’r  rhai a weithiodd ac a aberthodd i helpu i sicrhau cymaint o’r rhyddidau sydd gennym ni heddiw.   

Gwahoddwch y plant i feddwl am rywbeth y maent yn ddiolchgar amdano. Gall hyn fod yn deulu, ffrindiau, cymuned, natur, teimlo’n ddogel, y gallu i ddysgu, chwarae, rhannu eu syniadau, neu ddim ond bod â’r rhyddid i fod yr hyn ydynt.   

Gall y plant ddewis ysgrifennu, tynnu llun, trafod eu meddyliau, neu eu mynegi trwy’r pethau y byddant yn eu creu.  Gall hyn hefyd rhoi’r cyfle i ymchwilio i hawliau a rhyddidau plant, eu helpu i adnabod pwysigrwydd cael gwrandawiad, teimlo eu bod yn cael eu cynnwys, cael cyfleoedd i chwarae, a rhannu eu safbwyntiau a’u barnau.   

Crëwch Arddangosiad ar y Cyd  

Dowch â’r pabis a myfyrdodau’r plant at eu gilydd i greu arddangosiad lliwgar sy’n dathlu cofio, diolchgarwch, rhyddid a gobaith.   

A all eich clwb gyrraedd 100 o babis? Bydd pob pabi’n wahanol, a bydd pob cyfraniad yn ychwanegu rhywbeth arbennig i’r addangosiad.    

Cynigiwch amrywiaeth eang o ddefnyddiau a gadewch i blant bebderfynu os, sut a  phryd yr hoffen nhw gymryd rhan. 

Mae dilyn syniadau a diddordebau plant yn gymorth i’w creadigrwydd, eu perchnogaeth a’u cyfraniad ystyrlon. Cofiwch mai’r broses, nid y cynnyrch gorffenedig, sy’n bwysig.   

Cymerwch amser i wrando ar feddyliau plant, eu storïau a’u syniadau wrth iddynt greu. Gall eu cyfraniadau roi mewnweliadau gwerthfawr i’r hyn sydd bwysicaf iddynt, a helpu ymarferwyr i fyfyrio ar sut mae eu clwb yn cefnogi llesiant plant, eu cyfranogaeth, eu synnwyr o berthyn a’u hawliau.    

100 Pabi. 100 Creadigaeth Wahanol. 100 o Leisiau Unigryw.  

Cyfle ar y cyd i rannu, i roi diolch ac i fyfyrio ar bwysigrwydd heddwch, rhyddid, hawliau plant a’r pethau sy’n ein helpu ni oll i ffynnu.