29.10.2026 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Cyllid sydd ar Gael yn Abertawe: Cymorth Gofal Plant yn ystod y Gwyliau i Blant ag ADY
Nod y cynllun peilot yw helpu plant cymwys o oedran ysgol a’u teuluoedd i gael mynediad at ddarpariaeth gofal plant a chwarae addas yn ystod gwyliau’r ysgol, drwy alluogi Clybiau Gofal Plant sydd wedi cofrestru gydag AGC i gyflogi a thalu am Weithiwr Chwarae ychwanegol i gefnogi’r plentyn. Mae canllawiau ar gael sy’n egluro’r broses atgyfeirio a’r meini prawf cymhwysedd, ac yn darparu gwybodaeth i ddarparwyr, ysgolion, partneriaid a gweithwyr proffesiynol a allai fod yn cefnogi teuluoedd. Mae’r canllawiau hefyd yn cynnwys amserlenni ar gyfer gwneud penderfyniadau, manylion cysylltiadau allweddol a gwybodaeth am y cymorth pellach sydd ar gael gan dîm y prosiect.
Cymerwch amser i ddarllen y canllawiau a’u rhannu â chydweithwyr neu deuluoedd a allai elwa ar y cynllun peilot.
Cysylltwch â riah@clybiauplantcymru.org os oes gennych unrhyw ymholiadau.