
13.06.2025 |
Wythnos Anabledd Dysgu
Mae’n Wythnos Anabledd Dysgu ar Fehefin 16eg – 20ted a’r thema yw “Ydych chi’n fy ngweld i?”
Gwneud yn siŵr fod pobl ag anabledd dysgu’n cael eu gweld, eu clywed, eu cynnwys a’u mawrbrisio ym mhob agwedd o fywyd.
Yn ddiweddar fe wnaethom drafod yn ein Clybiau Hwb sut y mae plant yn unigolion unigryw â gwahanol alluoedd. Mae’n bwysig deall y plentyn, gwneud yn siwr eu bod yn cael eu gweld beth bynnag fo’u hanghenion unigol.
Defnyddiwch ein hadnodd aelodau “Dyma Fi” i wneud yn siŵr eich bod yn dod i wybod am bob plentyn unigol sy’n mynychu eich Clwb Gofal Plant All-Ysgol.