Gwobr Gofalu trwy’r Gymraeg 2025

Mae enwebiadau bellach ar agor ar gyfer Gwobr Gofalu yn y Gymraeg 2025.
Mae Gwobr Gofalu trwy’r Gymraeg yn cydnabod ac yn dathlu gweithwyr sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl drwy ddarparu gofal a chymorth drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r wobr yn agored i unrhyw weithwyr cyflogedig sy’n darparu gofal rhagorol drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn gweithio naill yn y maes, gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol/ ofal plant, neu chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Rydym bellach yn gwahodd aelodau’r cyhoedd, cyflogwyr a’r rhai sy’n gweithio ym maes gofal i enwebu gweithiwr.
Nid oes angen i’r gweithiwr fod yn siaradwr Cymraeg rhugl, cyn belled â’u bod yn defnyddio’r iaith wrth ddarparu gofal a chymorth – mae ychydig bach o Gymraeg yn mynd yn bell iawn!
Bydd y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a’u henwebwyr yn cael eu gwahodd i seremoni wobrwyo yn eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, 7 Awst.

Enwebwch weithiwr ar gyfer y wobr Gofalu trwy’r Cymraeg