
01.07.2025 |
Yn Galw ar bob Clwb All-Ysgol! Arolwg Rhieni 2025
Byddem yn gwerthfawrogi’n fawr petach yn rhannu’r arolwg 5-munud hwn â chymaint â phosibl o rieni yn eich cymuned – nid yn unig y rhai sy’n mynychu’ch clwb. Gofynnwn ichi rannu’r newyddion drwy’r cyfryngau cymdeithasol, ar lafar neu sut bynnag y gallwch, ac annog rhieni i gymryd rhan erbyn diwedd y tymor.
Mae’r arolwg ar gyfer rhieni â phlant o dan 12 mlwydd oed, ac mae’n holi ynghylch pob math o ofal plant; bydd yn ein helpu i gefnogi a chynrychioli’r sector Gofal Plant All-Ysgol yn well. Bydd y canlyniadau’n cael eu rhannu â sefydliadau megis Awdurdodau Lleol, arianwyr a Llywodraeth Cymru – a bydd yr holl ymatebion yn gwbl ddienw.
Diolch!