Disgrifiad
Mae hwn yn wych i unrhyw un sydd eisoes â Lefel 3 mewn Gofal Plant, Gwaith Ieuenctid neu gefnogi Dysgu. Mae’n adeiladu ar y wybodaeth yr ydych eisoes wedi ei sefydlu ac yn eich helpu i ddeall egwyddorion, damcaniaethau a dulliau Gwaith Chwarae.
Bydd y cwrs yma’n eich cymhwyso ar gyfer Gwaith Chwarae Lefel 3 ym mhob lleoliad.
6.30pm-8.30pm. Ar-lein
9 Cyfarfodydd- 16/10, 23/10, 30/10, 06/11, 13/11, 20/11, 27/11, 04/12, 11/12
Cymhwysedd:
Rhaid bod â Thystysgrif Lefel 3 o fewn y maes gofal plant.
Bod â’r hawl i weithio a byw yng Nghymru
Bod yn gyflogedig mewn lleoliad gofal plant neu chwarae.
Dros 18 mlwydd oed