
03.09.2025 |
Ymchwil Egwyddorion Gwaith Chwarae – rhannwch eich barn
Mae 2025 yn nodi pen-blwydd 20fed yr Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae Chwarae Cymru wedi comisiynu Tîm Datblygiad Plentyndod a Gwaith Chwarae Prifysgol Leeds Beckett, i gynnal arolwg ar sut a ble y defnyddir yr Egwyddorion Gwaith Chwarae.
Mae’r ymchwil wedi ei ddylunio er mwyn dysgu pa mor eang ac ym mha leoliadau y mae’r Egwyddorion Gwaith Chwarae wedi eu mabwysiadu 20 mlynedd ers iddynt gael eu dyfeisio. Bydd hyn yn golygu holi’r sector gwaith chwarae’n genedlaethol ac yn rhyngwladol, i ddynodi:
- sefydliadau a rhanddeiliaid sydd wedi mabwysiadu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae neu sy’n defnyddio’r Egwyddorion Gwaith Chwarae i hysbysu eu gwaith
- sefydliadau sydd wedi addasu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae er mwyn eu defnyddio yn eu lleoliad(au) priodol
- sefydliadau sydd wedi mabwysiadu ffurfiau amgen o egwyddorion canllaw ar gyfer gwaith chwarae.
Rydym yn gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw rôl neu gyfrifoldeb i hwyluso chwarae ar gyfer plant mewn lleoliad wedi ei staffio, i gwblhau’r holiadur hwn.
Rydym yn awyddus iddo gael ei ddosbarthu mor eang â phosibl, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Ydych chi’n cynrychioli sefydliad sydd â chysylltiadau ar draws y gweithlu plant allai fod yn defnyddio’r Egwyddorion Gwaith Chwarae yn eu gwaith? Allech chi helpu i hyrwyddo’r arolwg? Os felly, e-bostiwch y Tîm Datblygiad Plentyndod a Gwaith Chwarae.
Dyddiad cau ar gyfer cwblhau’r arolwg yw: 31 Rhagfyr 2025
Cwblhau’r holiadur ar-lein yma