Cynnig Gofal Plant Cymru

Mae newid yn dod. Mae’n amser gweithredu nawr!

O 30ain mis Medi, pan fyddwch chi’n mewngofnodi i’ch cyfrif Cynnig Gofal Plant Cymru, bydd angen ichi symud o Borth y Llywodraeth i GOV.UK One Login.  Ar ôl y dyddiad hwnnw fyddwch chi ddim yn gallu dewis ‘gwneud hyn yn nes ymlaen’.

Ond, gallwch chi wneud y newid hwn nawr. Mewngofnodwch yn ôl yr arfer yma: Mewngofnodi i gyfrif darparwr ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru | LLYW.CYMRU

Yna byddwch yn gweld sgrin o dan y pennawd ‘Mae’r ffordd rydych chi’n mewngofnodi i Gynnig Gofal Plant Cymru yn newid’. Bydd y sgrin hon yn darparu dau opsiwn mewngofnodi: Porth y Llywodraeth neu GOV.UK One Login. Gan nad ydych wedi symud eich cyfrif Cynnig Gofal Plant eto i GOV.UK One Login, dewiswch yr opsiwn:

Mewngofnodi gyda Porth y Llywodraeth

O’r fan honno, dilynwch y camau i symud eich cyfrif i GOV.One Login.

Os nad ydych yn gallu symud eich cyfrif Cynnig Gofal Plant, cysylltwch â llinell gymorth Cynnig Gofal Plant Cymru ar 03000 628 628.

Awgrymiadau ar gyfer newid yn ddidrafferth:

  • Wrth symud i UK One Login, mae’n bwysig bod gan bob aelod o staff yn eich lleoliad gyfeiriad e-bost unigryw at ddibenion mewngofnodi. Mae hyn yn ofynnol gan GOV.UK One Login. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y dudalen Cael cymorth gyda GOV.UK One Login gyda Cynnig Gofal Plant Cymru
  • Os oes gennych fwy nag un cyfrif Porth y Llywodraeth sy’n gysylltiedig â Chynnig Gofal Plant Cymru, byddwch yn gallu symud pob un o’r cyfrifon hyn i UK One Login cyn belled â bod cyfeiriad e-bost gwahanol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pob cyfrif.
  • Os oes gennych fwy nag un cyfrif Porth y Llywodraeth sy’n gysylltiedig â Chynnig Gofal Plant Cymru a’ch bod yn defnyddio’r un cyfeiriad e-bost ar gyfer pob un o’r cyfrifon Porth y Llywodraeth hyn, bydd angen i chi naill ai gael cyfeiriad e-bost unigryw yn barod ar gyfer pob cyfrif pan fyddwch chi’n symud draw i UK One Login, neu cydgrynhoi’r holl gyfrifon yn un. I gael cymorth, cysylltwch â llinell gymorth Cynnig Gofal Plant Cymru ar 03000 628 628, a dewiswch yr opsiwn i gael help gyda mewngofnodi

Mae cymorth a gwybodaeth am y newid hwn ar gael ar Cael cymorth gyda GOV.UK One Login gyda Cynnig Gofal Plant Cymru neu cysylltwch â llinell gymorth Cynnig Gofal Plant Cymru ar 03000 628 628.

Sylwer: mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Gynnig Gofal Plant Cymru yn unig. Ni fydd yn effeithio ar unrhyw wasanaethau digidol eraill sydd wedi’u cysylltu â’ch cyfrif Porth y Llywodraeth.