
12.09.2025 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser mawr gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Gwobrau’r Loteri Genedlaethol i Bawb
“Mae cysylltiadau cymdeithasol a gweithgareddau cymunedol wrth wraidd creu bywydau iachach, hapusach a chymdeithas lwyddiannus. Dyna pam mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cefnogi prosiectau arbennig dan arweiniad y gymuned.”
Ardal: Cymru
Addas ar gyfer: Sefydliadau Gwirfoddol neu Gymunedol
Faint o gyllid sy’ ar gael: £300 – £20,000
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Parhaus
Mae Cronfa Principality Building Society’s Future Generations yn gronfa Cymru gyfan a sefydlwyd mewn partneriaeth â Principality Building Society gyda’r nod o gael effaith gadarnhaol ar gymdeithas a bywydau pobl ifanc yng Nghymru.
Grantiau Sydd Ar Gael
Dyfarnwyd grantiau hyd at £20,000 y flwyddyn am ddwy flynedd i sefydliadau trydydd sector os mae eu gwaith yn canolbwyntio ar gefnogi pobl ifanc dan 25 oed.
Pwy all wneud cais?
- Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau gan sefydliadau sydd ag incwm o dros £500,000, oni bai y gellir gwneud achos dros amgylchiadau unigryw eithriadol. E.e. Gwthiodd grant cyfalaf yr incwm dros y trothwy incwm am 1 flwyddyn yn unig. Byddem yn annog ac yn croesawu sgwrs am hyn cyn gwneud cais.
- Ariennir ardaloedd daearyddol: gan gynnwys Cymru a swyddfeydd ar y terfyn rhwng Cymru / Lloegr
3. Rhaid i chi fod yn un o’r canlynol:
- Grwpiau Cyfansoddiadol
- Elusennau Cofrestredig a Sefydliadau Elusennol Corfforedig
- Cwmnïau Cyfyngedig drwy Warant
- Cwmnïau Buddiant Cymunedol
- Mentrau Cymdeithasol
Sylwch nad ydych yn gymwys i wneud cais os rydych wedi derbyn grant ‘active multiple year’ o’r gronfa hon, a ddyfarnwyd o fewn y 18 mis diwethaf.
Dyddiad cau: 6ed Mis Hydref, 2025
Cysylltwch ag un o’n Swyddogion Datblygu Busnes Gofal Plant am gymorth os ydych chi’n bwriadu gwneud cais am y grant hwn