
19.09.2025 |
Lansiad ymgynghoriad Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant Rheoleiddiedig
Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cyhoeddi ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y newidiadau arfaethedig i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir.
Maent wedi canolbwyntio eu hymdrechion ar y newdiadau canlynol sy’n darparu eglurder i ddarparwyr gofal plant, gan dynnu amwyseddau o’r safonau ac ychwanegu canllawiau pellach i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol. Gall y prif newidiadau i’r polisi cael ei cynhoi fel y ganlyn:
- Diweddaru strwythur a fformat y Safonau i fersiwn HTML, â dolenni i’r rheoliadau perthnasol a chanllawiau arfer gorau
- Diweddaru’r bennod ar ddarpariaeth o ansawdd uchel i alinio egwyddorion Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar ymhellach o fewn y safonau
- Cyflwyno dull cymesur o weithredu’r Safonau o ran staff cymwysedig a hyfforddiant cymorth cyntaf ar gyfer gwasanaethau Gwaith Chwarae Mynediad Agored, yng ngoleuni argymhellion yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae
- Diweddaru Safon 12 sy’n ymwneud â Meddyginiaeth a chyflwyno atodiad ychwanegol yn rhoi canllawiau ar weinyddu Parasetamol Hylifol
- Rhoi eglurder ar ddefnyddio staff yn effeithiol ar draws y lleoliad
- Cyflwyno rhywfaint o hyblygrwydd o ran y cymarebau ar gyfer gwarchodwyr plant, a chaniatáu i warchodwyr plant gael un plentyn ychwanegol o dan 5 oed ond heb gynyddu’r uchafswm nifer