
02.10.2025 |
Diwrnodau Ymwybyddiaeth
Bob blwyddyn yn ystod mis Hydref cynhelir Mis Rhyngwladol Cerdded i’r Ysgol. Mae’r fenter yma’n tynnu sylw at holl fanteision cerdded – nid yn unig ar gyfer iechyd corfforol plant, ond hefyd o ran eu hyder a’u hymdeimlad o annibyniaeth.
Felly beth am ddathlu Mis Rhyngwladol Cerdded i’r Ysgol gyda’ch teuluoedd drwy roi gwybod iddyn nhw am y fenter yn ystod mis Hydref. Drwy annog rhieni i gerdded i gasglu eu plant byddwch yn hyrwyddo arferion iach ac aer glanach. Mae’r daith gerdded adref hefyd yn gyfle i’r plant fyfyrio ar eu diwrnod a thrafod gyda’u rhieni a’u gofalwyr beth maen nhw wedi bod yn ei wneud.