
10.10.2025 |
Cofrestredig â Ty’r Cwmnïau – WebFiling
Fel busnes Clwb Gofal Plant All-Ysgol, mae’n hollbwysig eich bod yn cadw’r holl wybodaeth yn gyfredol wrth gofnodi. Mae Tŷ’r Cwmnïau yn cyflwyno system One Login a fydd yn ei gwneud hi’n haws ac yn fwy diogel i gwmnïau a pherchnogion busnesau gael mynediad at wasanaethau.
O 13 Hydref 2025 ymlaen, bydd angen i gwsmeriaid ddefnyddio’r system One Login GOV.UK i fewngofnodi i’w cyfrif WebFiling ar Tŷ’r Cwmnïau. Mae’r symud i system One Login GOV.UK yn golygu y bydd cwmnïau o bob maint yn elwa o ffordd fwy diogel a chyson o gael mynediad at wasanaethau Tŷ’r Cwmnïau – gan roi mwy o sicrwydd ynghylch pwy sy’n sefydlu, rhedeg a rheoli cwmnïau yn y DU.
Cewch hyd i ragor o wybodaeth ar sut y gallwch symud i system WebFiling ar wefan Gov.UK