Chwilio
| Cym
Dangosfyrddau

Ar gyfer pwy y mae’r cwrs 

Unrhyw un sy’n gweithio mewn swydd reoli a all ddangos eu bod yn cynorthwyo cydweithwyr i ddarparu Gwaith Chwarae o safon, wrth yrru agweddau busnes a strategol y ddarpariaeth yn ei blaen. 

 

Ar gyfer pa rolau y mae hwn 

Mae’r cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sydd mewn rôl reoli. Nid yw’n gymhwyster gorfodol ond mae’n ddelfrydol i’r rhai sy’n dymuno mynd â’u dysgu i’r lefel nesaf 

Beth i’w ddisgwyl 

Cwrs 2 flynedd lle profir archwiliad cynhwysfawr o Chwarae, Gwaith Chwarae a’r ddeddfwriaeth, y  ddamcaniaeth a’r ymchwil sy’n sail i arfer da. 

 

Mae Sgiliau Hanfodol mewn Mathemateg a Saesneg yn rhan o’r cwrs hwn oni bai bod gan y cyfranogwr radd C neu uwch mewn TGAU yn y pwnc penodol neu gyfwerth. 

 

Yn ystod y cwrs hwn gallwch hefyd ddisgwyl: 

  • Ymweliadau Misol gan eich Swyddog Hyfforddi 
  • Hyfforddiant Ar-lein unwaith y mis gyda’r nos 
  • Ystod eang o adnoddau 
  • Sesiynau ymarferol wyneb yn wyneb 
  • Swyddog Hyfforddi ymatebol a chefnogol. 

 

Gofynion cymhwysedd – 

  • Bod yn gweithio mewn lleoliad seiliedig-ar-chwarae.  
  • Yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos 
  • Eu bod â’r hawl i fyw a gweithio yn y  DU 
  • Eu bod yn 19 mlwydd oed neu drosodd  

Nodwch yma i dderbyn crynodeb wythnosol!