Chwilio
| Cym
Dangosfyrddau

Ar gyfer pwy y mae’r cwrs – Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer unrhyw un sydd eisoes â Lefel 3 lawn neu uwch mewn Gofal Plant, Gwaith Ieuenctid, Addysg neu Ysgol Goedwig. Mae’n galluogi cyfranogwyr i adeiladu ar eu dysgu presennol a dod yn Weithiwr Chwarae cymwys heb yr angen i gwblhau diploma llawn arall. 

 

Ar gyfer pa rolau mae hwn – Ar ôl ei gwblhau, mae’r cwrs hwn yn cymhwyso unrhyw un i weithio neu arwain lleoliad Gwaith Chwarae 

 

Ni allwn dderbyn cymwysterau sydd wedi’u cwblhau trwy safleoedd DPP 

 

Beth i’w ddisgwyl 

 

Mae’r cwrs yn cwmpasu Egwyddorion Gwaith Chwarae, Hawl Plant i Chwarae, Mannau Chwarae, y Cylch Chwarae, Diogelu, Ymarfer Myfyriol a llawer mwy. 

 

Mae modelau cyflwyno yn amrywio, ar hyn o bryd rydym yn cynnig yr opsiynau canlynol: 

  • 9 sesiwn ar-lein o 2 awr, ac yna gwaith cwrs i’w gwblhau bob wythnos 
  • 4 sesiwn ar-lein o 4.5 awr gyda gwaith cartref wedi’i osod bob sesiwn 
  • 4 sesiwn 4.5 awr o fod yno’n bersonol, yn cynnwys gwaith cartref wedi’i osod ym mhob sesiwn  

  

Gofynion cymhwysedd – 

  • Bod wedi eu cyflogi mewn Lleoliad Gofal Plant neu Waith Chwarae 
  • Yn meddu ar gymhwyster Lefel 3 perthnasol a darparu tystysgrif fel  prawf (gellir gwneud cais am wybodaeth ychwanegol yn dibynnu ar gyfrededd y dystysgrif a ddarperir)  
  • Eu bod â’r hawl i fyw a gweithio yn y DU 
  • Eu bod dros 18 mlwydd oed ar ddechrau’r cwrs  

Nodwch yma i dderbyn crynodeb wythnosol!