Chwilio
| Cym
Dangosfyrddau

Ar gyfer pwy mae’r cwrs – Unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio yn y Sector Gwaith Chwarae, neu’r rhai sydd eisoes yn gweithio’n uniongyrchol gyda phlant ac yn chwilio am ffyrdd o wella eu sgiliau neu ychwanegu sgil newydd atynt.  

Ar gyfer pa rolau mae hwn – Mae’r Dyfarniad Lefel 2 mewn Arferion Gwaith Chwarae yn cymhwyso’r rhai sy’n cwblhau i weithio mewn Cynlluniau Chwarae Gwyliau. 

Os yw Lefel 2 neu uwch mewn Gofal Plant, Gwaith Ieuenctid, Ysgol Goedwig neu Gymorth Addysgu eisoes wedi’i gyflawni, cydnabyddir y Dyfarniad Lefel 2 mewn Ymarfer Gwaith Chwarae yn gymhwyster ar gyfer unhyw leoliad Gwaith Chwarae. 

Beth i’w ddisgwyl – Mae’r cwrs hwn yn cyflwyno beth yw bod yn Weithiwr Chwarae, sut i weithio gyda chydweithwyr i greu man chwarae amrywiol, a sut i ymateb i anghenion a dewisiadau plant. 

 

Mae modelau cyflwyno yn amrywio, ar hyn o bryd rydym yn cynnig yr opsiynau canlynol: 

  • 3 Diwrnod Llawn o fod yno’n bersonol
  • 7 sesiwn fyrrach, wyneb-yn-wyneb naill ai yn ystod y dydd neu drwy sesiynau cyfnos
  • 7 sesiwn hybrid fyrrach 4 yn bersonol a 3 ar-lein.

 

Bydd y gwaith yn cael ei gwblhau yn ystod y sesiynau, ond bydd pob model yn gofyn i chi wneud rhywfaint o waith gartref mewn llyfr gwaith dysgwyr a ddarperir. 

 

Gofynion cymhwysedd – 

  • Bod yn gwirfoddoli neu’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant mewn Lleoliad Gofal Plant neu Waith Chwarae.   
  • Gall gwblhau 20 awr o ymarfer 
  • Eu bod â’r hawl i fyw a gweithio yn y DU 
  • Bod yn 16 mlwydd oed neu drosodd 

 

“Dysgu a threfnu gwych. Gwnaeth y cwrs yn hwyl ac yn hawdd deall yr hyn yr oedd yn cael ei ddysgu.” 

“Roedd yr hyfforddwr yn wych, fe arweiniodd ein cwrs ar gyflymder y gallai pawb ei ddeall, ac roedd yn barod iawn i fynd dros unrhyw beth nad oeddem yn ei ddeall. Roedd dull ei hyfforddiant yn arbennig o dda ac roedd ei phersonoliaeth hefyd yn rhyfeddol. Hawdd siarad â hi, ac yn berson hollol hyfryd.” 

More about the qualification can be found here at the Agored Website

Nodwch yma i dderbyn crynodeb wythnosol!