Prentisiaethau

Mae prentisiaethau yn ffordd wych o sicrhau bod staff yn gymwys. Mae’r rhaglen hon, sydd wedi’i hariannu’n llawn, wedi’i chynllunio i gefnogi cyflogwyr i ddatblygu eu gweithlu a rhoi cyfle i Weithwyr Chwarae dyfu eu gwybodaeth a’u sgiliau. 

 

Mae prentisiaethau’n para rhwng 1 a 2 flynedd yn dibynnu ar y lefel ac yn cynnwys: 

  • Hyfforddiant tuag at gymhwyso mewn Diploma Gwaith Chwarae llawn ar Lefel 2, 3 neu 5. 
  • Sgiliau Hanfodol Cymru Mathemateg a Saesneg (lle bo’n berthnasol) 
  • Uned Datblygiad Proffesiynol i wella ymhellach wybodaeth a sgiliau Gweithwyr Chwarae.