23.10.2025 |
Yn dod yn fuan: Wythnos Ymddiriedolwyr 2025
Mae ymddiriedolwyr yn chwarae rhan anferthol mewn Clybiau Gofal Plant All-Ysgol. Mae llawer o Glybiau’n cael eu rhedeg gan dîm ymroddedig o wirfoddolwyr sydd wedi ymrwymo i gefnogi a sicrhau bod Gofal Plant ar gael i’w cymuned.
Mae WCVA yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar-lein sy’n rhad ac am ddim i ymddiriedolwyr yn ystod Wythnos yr Ymddiriedolwyr 3-7 Tachwedd 2025.
Archebwch ddigwyddiadau yma gan gynnwys:
- Uno Cwmnïau a Strwythurau Cyfreithiol
- Gwiriad Iechyd ar Gynhyrchu Incwm
- Canllaw i Newidiadau Diweddar yn y Gyfraith Diogelu Data
- Gweminar gan yr ICO i arwain trwy newidiadau diweddar i gyfraith diogelu data.
- Sut i fod yn Ymddiriedolwr: Hyfforddiant i arfogi dysgwyr â’r sgiliau a’r wybodaeth i fod yn ymddiriedolwyr effeithiol.
- Diweddariad ar Newidiadau i Dŷ’r Cwmnïau: Mynd i’r afael â throseddau economaidd a chefnogi twf economaidd gyda ffocws ar ofynion gwirio hunaniaeth.
- Ydych chi o ddifrif ynglŷn â gwneud gwahaniaeth? Dewch yn ymddiriedolwr: Sesiwn ddiddorol i archwilio rôl ymddiriedolwr a sut i wneud gwahaniaeth.
Mae’r digwyddiadau hyn wedi’u cynllunio i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth werthfawr i ymddiriedolwyr, gan eu helpu i ddeall eu rolau a’u cyfrifoldebau’n well.