23.10.2025 |
Recriwtio a Chadw Staff
Mae Clybiau Gofal Plant All-Ysgol yn darparu pobl ifanc, rhieni, gweithwyr rhan-amser i gael mynediad at gyflogaeth, dechrau taith newydd mewn Gwaith Chwarae neu broffesiwn Gofal Plant, a galluogi pobl i cael fwy o oriau gwaith a chael incwm ychwanegol.
Sut allwch chi a’ch Clwb Gofal Plant All-Ysgol gefnogi aelodau o’ch cymuned leol i wirfoddoli, ail-hyfforddi ac ennill profiad ym myd gwaith.
Cysylltwch â’n tîm i gael rhagor o wybodaeth! Gallwn eich cefnogi i recriwtio gwirfoddolwyr i’ch Clwb a chael mynediad at hyfforddiant trwy Waith Chwarae. Info@clybiauplantcymru.org
Mae dod o hyd i swydd yn heriol, ond mae Cymru’n Gweithio hefyd yma i helpu os ydych chi neu rywun yn eich cymuned –
- Yn gadael yr ysgol neu wedi gadael yr ysgol neu addysg yn ddiweddar
- Yn newid gyrfaoedd
- Yn wynebu diswyddiad neu wedi cael eu diswyddo’n ddiweddar
- Eisiau uwch-sgilio
- Yn chwilio am swydd
Gall Cymru’n Gweithio cefnogi’r rhai sydd:
- Yn brin o hyder ac eisiau ail-adeiladu hyder
- Angen help i greu CV neu help gyda thechnegau cyfweliad
- Angen cymorth ychwanegol i oresgyn rhwystrau i weithio fel problem iechyd neu anabledd