Cyfleoedd Clwb Gofal Plant All-Ysgol yn Ne Cymru

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili 

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 

 

Mae Ysgol Gynradd Cwmcarn yn chwilio am ddarparwr newydd i ddarparu gofal plant

Grŵp chwarae bore a phrynhawn

Clwb cofleidiol prynhawn i gefnogi darparu lleoedd gofal plant o dan Gynnig Gofal Plant Cymru. Clwb r’ôl ysgol

Bydd gofyn i’r darparwr hefyd ddarparu lleoliadau a ariennir gan Ddarpariaeth Ychwanegol a Dechrau’n Deg.
 

Byddai’r ddarpariaeth gofal plant yn gweithredu wrth ymyl adeilad meithrinfa’r ysgol, er mwyn galluogi trosglwyddiad llyfn rhwng darpariaeth meithrinfa’r ysgol a’r uned gofal plant. 

Mae Corff Llywodraethol yr ysgol yn gwahodd Datganiadau o Ddiddordeb (EOI) gan ddarparwyr gofal plant sydd wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) i ddatblygu’r ddarpariaeth hon. Mae’r EOI ar agor i ddarparwyr presennol sy’n dymuno datblygu darpariaethau lloeren newydd, darparwyr newydd ac i warchodwyr plant sy’n dymuno cofrestru fel darpariaeth grŵp ar gyfer plant 2 oed a hŷn. 

Rhagwelir y bydd y ddarpariaeth hon wedi’i chofrestru’n barod i’w chyflwyno o fis Ionawr 2026.

Mae’r Datganiad o Ddiddordeb (EOI) yn cael ei wneud gan yr Ysgol a’r Llywodraethwyr gyda chefnogaeth Tîm Blynyddoedd Cynnar yr Awdurdod Lleol.

Rhaid i ddarparwyr gofal plant gyflwyno eu cais drwy borth e-ffynhonnell Proactis Plaza yn unol â’r ddolen isod:

Rhaid cyflwyno Cyflwyniadau Tendr drwy’r porth e-dendro erbyn 3pm ddydd Mawrth 4 Tachwedd 2025 fan bellaf. Ni fyddant yn cael eu derbyn drwy unrhyw ddull arall fel e-bost na phost. Gwahoddir pob darparwr gofal plant sy’n bodloni’r meini prawf gwerthuso i gyfweliad ar 19 Tachwedd 2025. 

Darpariaeth Gofal Plant yn Ysgol Gynradd Cwmcarn – Dewch o Hyd i Dendro 

Proactis – Supplier Network

 

Rhondda Cynon Taf 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (RCTCBC) yn chwilio am ddatganiadau o ddiddordeb (EOI) gan ymarferwyr gofal plant/chwarae profiadol i ddarparu gwasanaethau gofal plant y tu allan i’r ysgol cyfrwng Saesneg yn Ysgol Bro Taf o fis Chwefror 2026.  

I’w dderbyn dim hwyrach na 5pm DYDD MERCHER 19 TACHWEDD 2025 

Dylid cyfeirio pob ymholiad anffurfiol ynghylch y Datganiad o Ddiddordeb hwn at dîm gofal plant Rhondda Cynon Taf. 

E-bost: childcareteam@rctcbc.gov.uk 

Ffôn: 01443 570048