Ystyriaethau CThEM ar gyfer Cynllun Talu Wrth Ennill (PAYE) ym mis Rhagfyr

Os ydych chi mewn sefyllfa lle efallai y bydd angen i chi dalu eich tîm staff yn gynharach nag arfer ym mis Rhagfyr oherwydd cau eich clwb dros y cyfnod Nadoligaidd. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n adrodd Gwybodaeth Amser Real (RTI). Os yw hyn yn berthnasol i’ch busnes, mae rhaid i chi ystyried ac adrodd am Gyflwyniad Taliad Llawn (FPS) fel arfer.

Er enghraifft, os ydych chi’n talu ar 19 Rhagfyr 2025 ond ar y 31ain Rhagfyr 2025 y bydd eich dyddiad talu arferol, rhowch wybod am y dyddiad talu fel 31 Rhagfyr 2025. Yn yr enghraifft hon, byddai angen anfon y FPS ar neu cyn 31 Rhagfyr 2025.