12.12.2025 |
Rhaglen newydd o gymorth wedi’i chyhoeddi ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol
Mae pecyn cymorth ar gyfer helpu dysgwyr a theuluoedd drwy’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) wedi’i gyhoeddi, ar ôl adolygu deddfwriaeth ADY, gan wrando ar deuluoedd a dysgu gwers o bob rhan o Gymru
Mae hyn yn cynnwys pecyn cymorth newydd i rieni a gofalwyr dysgwyr ag ADY, sydd wedi’i gyhoeddi a’i ddatblygu ochr yn ochr â rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol. Mae’r pecyn yn darparu ystod o adnoddau sy’n esbonio sut mae’r system ADY yn gweithio, mae’n amlinellu’r cymorth sydd ar gael i blant, pobl ifanc a rhieni, ac mae’n nodi eu hawliau o dan ddeddfwriaeth ADY.