12.12.2025 |
Safle Rhyngweithiol Camau: Neges i ddysgwyr
Mae Dysgu Cymraeg wedi cael diweddariad technegol hanfodol i wella’r gwasanaeth yn y tymor hir. Yn anffodus, mae hyn wedi achosi rhai problemau dros dro, gan gynnwys adrannau sy’n diflannu a rhai swyddogaethau sy’ ddim yn gweithio’n iawn. Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol yn gweithio’n gyflym i ddatrys y sefyllfa, ac yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra. Diolch yn fawr am eich amynedd – rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth.