09.01.2026 |
Dathliadau Trwy Gydol y Flwyddyn
Darganfyddwch Becyn Adnoddau Dathliadau Trwy Gydol y Flwyddyn am syniadau gweithgareddau pob mis, ar gyfer dathliadau ar draws diwylliannau a ffyddoedd, gyda chalendr digwyddiadau defnyddiol i’w lawrlwytho.
Makar Sankranti – 14 Ionawr
Mae Makar Sankranti, a elwir hefyd yn Ŵyl y Barcud yn Ŵyl bwysig Hindw sy’n cael ei dathlu ym mhob rhan o India (er ei fod yn cael ei alw’n enwau Gwahanol). Mae’n rhoi rheswm i bobl dod at eI gilydd wedi misoedd oer y gaeaf, a dathlu dechrau’r gwanwyn.
Darganfyddwch Becyn Adnoddau Dathliadau Trwy Gydol y Flwyddyn am syniadau gweithgareddau:
- Gwnewch a hedfanwch eich barcud ail-gylchu eich hun. Defnyddiwch eich barcutiaid i addurno eich lleoliad ynghyd a haul mawr.
- Crëwch ddelweddau o’r haul gan arddurno cardboard mewn siap disg neu defnyddiwch blât fel ffram ar gyfer papur sidan melyn a rhowch i hongian yn y ffenest, fel y gallant nhw ddisgleirio yn y golau.
- Chwaraewch amryw o gerddoriaeth wahanol Indiaid, fel themâu Bollywood i sitar. Gallwch chwarae cadeiriau cerddorol ar yr un pryd.
Dydd Santes Dwynwen – 25 Ionawr
Dathlwyd Dydd Santes Dwynwen ar Ionawr 25 pob blwyddyn. Dangos eich cariad i’ch rhieni, brodyr a chwiorydd, cefnderoedd, ffrindiau, cydweithwyr, a hyd yn oed eich
anifeiliaid anwes, a gwnewch y diwrnod yn un cofiadwy. Mae Heddiw yn ddiwrnod da i ofyn plant beth maen nhw’n caru am eu clwb?
Syniadau Ar Gyfer Gweithgareddau
- Helfa trysor gyda phethau mae plant yn eu caru.
- Chwarae gemau y mae plant yn eu caru’n orau.
- Gwnewch gardiau ar gyfer eich anwyliaid.