Gwneud y Cynnig Gweithredol – Lle i ddechrau?

Dyddiad: 27 Ionawr 2026, 10am hyd 1pm

Lleoliad: Ar-lein, dros Teams

Sefydliad: Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac mae ychydig o Gymraeg yn mynd yn bell. Yn y sesiwn hon, byddwch yn clywed beth sydd angen i chi ei wneud, a pha adnoddau sydd ar gael i’ch cefnogi er mwyn darparu gwasanaethau o ansawdd i siaradwyr Cymraeg a gweithredu’r cynnig gweithredol.

Pwy mae’r digwyddiad hwn ar gyfer
Mae’r sesiwn hon ar gyfer gyflogwyr gweithwyr gofal cofrestredig ym maes gofal cymdeithasol i oedolion, gan gynnwys Unigolion Cyfrifol a rheolwyr cofrestredig.

Cynnwys y sesiwn
Ymunwch â ni er mwyn:

  • Deall pwysigrwydd y ‘cynnig gweithredol’
  • Cael gwybodaeth am yr adnoddau rhad ac am ddim sydd ar gael i’ch cefnogi.
  • Clywed gan eraill sydd wedi manteisio ar y cymorth a’r effaith y mae hyn wedi cael are eu gwasanaeth
  • Cymryd rhan mewn sgyrsiau a rhannu eich profiadau, heriau a chyfleoedd
  • Siarad â thiwtoriaid sydd ar gael i’ch arwain

Meddwl am eich camau nesaf.

Trefnwch le yma