23.01.2026 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser mawr gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
CYNLLUN GRANT PERTHYN
Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae Cynllun Grant Perthyn ar agor i geisiadau gan grwpiau cymunedol ar hyd a lled Cymru sy’n dymuno creu mentrau newydd ac/neu adeiladu cynhwysedd a datblygu syniadau a all arwain at sefydlu mentrau cymdeithasol a chydweithredol, neu brosiectau a arweinir gan y gymuned. Rhaid i’r Gymraeg fod yn ganolog i nodau ac amcanion y prosiectau hyn.
Nodwch, mae’r grantiau Perthyn ar gyfer prosiectau refeniw yn unig.
Isod mae enghreifftiau o’r math o wariant a fyddai’n gymwys o dan y grant hwn:
- Adeiladu cynhwysedd (rheoli prosiect/cydsymud)
- Hwyluso ymgysylltiad cymdeithasol (h.y. digwyddiadau ymgynghoriad, arolwg asesu anghenion tai)
- Chwiliadau eiddo a thir
- Costau pensaernïaeth
- Costau wedi prynu ymlaen llaw (h.y. gynllunio ymlaen llaw, arolygiadau tir)
- Ffioedd Cam-cynnar
- Corffori
- Ymgynghoriaeth arbenigol (ddim ar gael o dan raglenni presennol h.y., SBW, Cymunedau sy’n Creu Cartrefi)
- Cyngor cyfreithiol
Gallwch gael hyd at £5,000.00
Ceisiadau ar agor nawr.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Ionawr 31 2026.