23.01.2026
Rhagolwg Llif Arian
Defnyddiwyd rhagolwg llif arian i ragweld incwm a gwariant dros y flwyddyn, gan roi trosolwg clir o ddisgwyliadau’r busnes ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Gall defnyddio rhagolwg llif arian helpu clybiau i gael braslun o’u sefyllfa ariannol, nodi ffyrdd o osgoi diffyg arian, a chynllunio’n fwy effeithiol. Mae templed rhagolwg llif arian ar gael yn adran 12 Camu Allan.
Gall ein Swyddog Datblygu Busnes Gofal Plant gynnig cymorth pwrpasol i’ch helpu i gwblhau’r rhagolwg llif arian a nodi’r pwynt adennill costau.
Cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Busnes Gofal Plant heddiw i drefnu apwyntiad a sicrhau bod eich rhagolwg llif arian yn barod ar gyfer eich hadroddiadau blynyddol.