Gweithiwr Chwarae – Borras Parc Darpariaeth Gofal Dydd Llawn, Wrecsam

Dyddiad cau: 16/02/2026

Oriau: Dydd Llun – dydd Gwener yn ystod y tymor a gwyliau’r ysgol

Cymwysterau / profiad gofynnol:

  • Mae cymhwyster perthnasol mewn Gofal Plant a Gwaith Chwarae (lefel 3 neu uwch) neu’r parodrwydd i astudio tuag ato yn hanfodol.
  • Mae profiad mewn Gwaith Chwarae mewn rôl flaenorol yn ddymunol.
  • Mae Borras Parc Gofal Dydd Llawn yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plan. Mae gwiriad DBS manwl a geirdaon boddhaol yn ofynnol am y swydd hon.
  • Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys ni waeth beth fo’u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oed.

Disgrifiad o Ddyletswyddau:

Fel rhan o’n tîm Gofal Plant All-Ysgol byddwch yn:

  • Darparu gofal plant sy’n plentyn-ganolog, yn codi hwyl, a’n ymgysylltiol ar gyfer plant rhwng oed 3-11 (oedran 2-11 yn ystod y clwb gwyliau)
  • Croesawu a chofrestru plant, gan gefnogi proses agoriad ac amser mynd adref sy’n ddiogel ac esmwyth.
  • Cynllunio, gosod a hwyluso sawl gweithgaredd chwarae sy’n hyrwyddo creadigrwydd, rhyngweithio cymdeithasol, gweithgareddau corfforol ac annibyniaeth.
  • Ymateb i anghenion unigol y plentyn, diddordebau a lles, gan roi cysur a sicrwydd.
  • Annog ymddygiad cadarnhaol, cyfeillgarwch, a chyfathrebiad hyderus.
  • Cefnogi cynhwysiad gan ddiwallu anghenion amrywiol y plant, gan gynnwys Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) neu ofynion meddygol/diwylliannol.
  • Cynnal amgylchedd glan, diogel ac ymgysylltiol tu allan a thu mewn, gan gwblhau asesiadau risg a gwiriadau diogel beunyddiol.
  • Cefnogi plant gyda gofal personol, cymorth cyntaf, hylendid, a llesiant yn ôl yr angen.
  • Adeiladu perthnasau cadarnhaol gyda theuluoedd, gan ymddwyn yn broffesiynol ac mewn dull sensitif ar bob adeg.
  • Cydweithio gyda gwirfoddolwr, cydweithwyr, a myfyrwyr, gan gyfrannu at ethos cryf y tîm.
  • Dilyn holl bolisïau a gweithdrefnau perthnasol iechyd a diogelwch.
  • Cynorthwyo gyda thasgau pob dydd, megis, paratoi byrbrydau, glanhau a chynnal adnoddau chwarae.

Sut i ymgeisio: Os ydych chi’n ymroddedig, yn frwdfrydig, ac yn barod i wneud gwahaniaeth da ym mywydau plant, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi!
Anfonwch eich CV a datganiad ategol i borrasfulldaycare5@hwbcymru.net neu cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth ar 01978 346890 (Opsiwn 3).

Lleoliad y swydd: Wrecsam, LL12 7TH 

 

Ymwadiad:

Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn hysbysebu swyddi gwag ar ran eu Haelodau. Am ragor o wybodaeth, dylai darpar ymgeiswyr ddefnyddio’r manylion cyswllt sydd yn yr hysbyseb a delio’n uniongyrchol â’r person a osododd yr hysbyseb, ac nid Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs.

Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn derbyn cyfrifoldeb am ansawdd neu gynnwys yr hysbyseb, nac am arferion cyflogi’r Aelod sy’n gosod yr hysbyseb. Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ yn cyflogi staff ar ran unrhyw sefydliad arall.

Back to Job Board