04/02/2026 |
Goruchwyliwr ar gyfer gofal dydd llawn – Borras Parc Darpariaeth Gofal Dydd Llawn, Wrecsam
Dyddiad cau: 16/02/2026
Oriau: Dydd Llun – dydd Gwener yn ystod y tymor a gwyliau’r ysgol
Cymwysterau / profiad gofynnol:
- Mae cymhwyster perthnasol mewn Gofal Plant a Gwaith Chwarae (lefel 3 neu uwch) yn hanfodol.
- Mae profiad o oruchwyliaeth mewn rôl flaenorol yn ddymunol.
- Mae Borras Parc Gofal Dydd Llawn yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plan. Mae gwiriad DBS manwl a geirdaon boddhaol yn ofynnol am y swydd hon.
- Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys—ni waeth beth fo’u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oed.
Cyfrifoldebau allweddol:
Yn ogystal â’ch dyletswyddau ymarferydd, byddwch yn:
Diogelu a Lles
- Sicrhau diogelwch a lles y plant ar bob adeg.
- Dilyn gweithdrefnau diogelu ac adrodd pryderon yn brydlon i’r Arweinydd Diogelu Dynodedig (DSL).
- Goruchwylio a gweithredu asesiadau risg ar gyfer y tu men a thu allan.
Arweinyddiaeth a Chefnogi’r Tîm
- Darparu goruchwyliaeth, arweinyddiaeth ac ysbrydoliaeth ar gyfer ymarferydd, gwirfoddolwyr a myfyrwyr.
- Rheoli staff er mwyn sicrhau cymhareb oedolion i blant cywir ar bob adeg.
- Arwain mewn cyfarfodydd tîm, cyfranu at gynllunio a chefnogi datblygiad proffesiynol y staff.
- Cael goruchwyliaeth un-i-un ac arfarniadau blynyddol ar gyfer aelodau tîm dynodedig.
- Goruchwylio’r proses sefydlu ar gyfer staff newydd a chefnogi ei ddatblygiad parhaus.
Dysgu, Chwarae a’r Amgylchedd
- Cynllunio, paratoi, a chyflawni gweithgareddau sy’n gytbwys, ymgysylltiol, a’n berthnasol ar gyfer oedran ac anghenion datblygol plant.
- Sicrhau bod amgylcheddau yn ddiogel, glan, trefnus ac wedi’i gyflwyno’n dda cyn ac ar ôl pob sesiwn.
- Cefnogi holl blant er mwyn ymgysylltio’n llawn gyda chwarae o ansawdd uchel a phrofiadau dysgu.
- Sicrhau trefniadau beunyddiol a thrawsnewidiadau esmwyth a pharchus.
Cyfathrebu a Gweinyddu
- Magu perthnasoedd cryf a chadarnhaol gyda theuluoedd, gan roi gwybod iddyn nhw trwy gyfathrebu llafar, diweddariadau ysgrifenedig a SeeSaw.
- Cynnal cofnodion cywir a chyfrinachol, gan gynnwys cofrestriadau, cynlluniau, a dogfennau datblygiad y plant (cydymffurfiad â GDPR).
- Monitro presenoldeb ac adrodd absenoldebau neu gasgliadau hwyr i’r Rheolwr.
- Cefnogi’r broses o wneud adroddiadau cynhyrchiad ar gyfer datblygiad a hunanwerthusiad yn y lleoliad.
Dyletswyddau Cyffredinol
- Ymgymryd tasgau â chyfrifoldebau ychwanegol lle bo angen, gan gynnnwys dyletswyddau domestig sy’n sicrhau safonau uchel o hylendid a diogelwch.
- Cydweithio gyda’r tîm rheoli i greu amgylchedd croesawus a chynhwysol ar gyfer staff, plant a theuluoedd.
Sut i ymgeisio: Os ydych chi’n ymroddedig, yn frwdfrydig, ac yn barod i wneud gwahaniaeth da ym mywydau plant, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi!
Anfonwch eich CV a datganiad ategol i borrasfulldaycare5@hwbcymru.net neu cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth ar 01978 346890 (Opsiwn 3).
Lleoliad y swydd: Wrecsam, LL12 7TH
Ymwadiad:
Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn hysbysebu swyddi gwag ar ran eu Haelodau. Am ragor o wybodaeth, dylai darpar ymgeiswyr ddefnyddio’r manylion cyswllt sydd yn yr hysbyseb a delio’n uniongyrchol â’r person a osododd yr hysbyseb, ac nid Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs.
Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn derbyn cyfrifoldeb am ansawdd neu gynnwys yr hysbyseb, nac am arferion cyflogi’r Aelod sy’n gosod yr hysbyseb. Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ yn cyflogi staff ar ran unrhyw sefydliad arall.