06.02.2026 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser mawr gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Cronfa i Gymru
Mae Cronfa i Gymru ar agor nawr, mae’n cau dydd Llun Tachwedd 9 12pm, er hynny mae’r panel yn cyfarfod ar ddiwedd pob mis ar raglen cylchdroi cyn y dyddiad cau. Mae Cronfa i Gymru ar agor i fusnesau bach, lleol, wedi’u harwain gan y gymuned a sefydliadau gwirfoddoli (e.e. cymdeithasfa, mentrau cymdeithasol, cwmni buddiant cymunedol a chlybiau), gydag incwm blynyddol o dan £100,000.
Canlyniadau’r gronfa:
- Gwella cyfleoedd pobl mewn bywyd
- Adeiladu cymunedau cryfach
- Gwella amgylcheddau gwledig a threfol
- Annog pobl a chymunedau i ddod yn fwy iach ac actif
- Cadw treftadaeth a diwylliant
Mae grantiau £500 – £2,500 ar gael pob blwyddyn hyd at 3 blwyddyn i sefydliadau y mae eu ceisiadau’n cyflawni orau yn erbyn y canlyniadau uchod.
Rhaid i chi fod yn un o’r canlynol:
- Grwpiau Cyfansoddiadol
- Elusennau Cofrestredig a Sefydliadau Elusennol Corfforedig
- Cwmnïau Cyfyngedig drwy Warant
- Cwmnïau Buddiant Cymunedol
- Mentrau Cymdeithasol
Am ragor o wybodaeth, gweler gwefan Sefydliad Cymunedol Cymru: https://sefydliadcymunedolcymru.org.uk/grants/cronfa-i-gymru/