Gweithgaredd: Cerdyn Lleuad a Seren Ramadan

Dathlwch Ramadan drwy Greu cardiau gwnïo ar gyfer Ramadan.

Bydd arnoch angen y canlynol:

  • Nodwydd cyfeillgar-i-blant (wedi ei gwneud o blastig neu â phwynt crwm) neu nodwydd sylfaenol
  • Nodwydd sylfaenol neu rywbeth tebyg i sgiwer i dyllu trwy bethau
  • Gleiniau – gallwch ddewis eich lliwiau a’ch dyluniadau.
  • Edau – Defnyddiwch liwiau sy’n cyferbynnu’n dda a fydd yn amlygu’u hunain yn dda ar eich cefndir.
  • Darnau o gardiau crefft neu gerdyn cyfarch mewn lliw o’ch dewis.

Dechreuwch drwy dynnu llun lleuad a seren ar eich papur â phensil fel canllaw. I wneud y lleuad gallwch ddefnyddio powlen i luniadu dwy gromlin nesaf at ei gilydd a’u cysylltu ar y corneli.

I wneud y seren gallwch ddim ond gwneud  llun ohoni â llaw, neu argraffu a thorri allan os byddwch angen help.

Unwaith y bydd gennych eich amlinelliad, defnyddiwch nodwydd i dyllu trwy linellau eich lluniad.

Hyn yn gwbl ddewisol: gallwch ludio papur llyfr sgrap ar ben eich darn o gerdyn crefft. Os dewiswch wneud hyn bydd yn rhaid i chi ail-dyllu’r dotiau gan ddilyn y llwybr o’r tu mewn i’ch cerdyn a wnaed o’r tyllu blaenorol.

Yn awr defnyddiwch edau a’i phasio drwy’r twll, gan ddechrau o’r gwaelod i ddechrau eich patrwm. Gwnewch yn siŵr eich bod yn clymu pen yr edau i’w chadw yn ei lle.

Gosodwch lain ar eich nodwydd cyn ei basio drwy’r twll ar frig eich cerdyn er mwyn iddo aros rhwng y ddau ddot ar yr ochr flaen. Daliwch i edafu drwy’r dyllau ac ychwanegu glain bob tro.

Gallwch ddilyn patrymau amrywiol wrth ichi edafu ac ychwanegu gleiniau wrth fynd  yn eich blaen. Mwynhewch dyfeisio dyluniadau newydd. Unwaith y byddwch wedi  gorffen â’ch gwaith edafu mae’ch cerdyn yn barod. Rhowch eich neges arno a’i fwynhau!

Gallwch hefyd ddefnyddio brwsh ffôm i baentio’r tu allan y cerdyn i wneud iddo edrych fel y nos, a gwasgaru paent gwyn i  gyfleu noson serennog. Bydd hyn yn amlygu’r lleuad a’r seren ar y cerdyn cyfarch.

Mae cymaint o bosibiliadau ynglŷn â’r grefft yma, gan gynnwys defnyddiau sydd gennych eisoes. Gallwch ychwanegu sêr o ffôm, neu wasgaru llewych. Ceir hwyl hefyd o ddefnyddio’r grefft yma i wneud siapiau eraill, er enghraifft llusern, mosg neu ddafad.