Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Sefydliad Morrisons

Mae Sefydliad Morrisons yn cynnig grantiau hyd at £10,000 i elusennau gofrestredig sy’n cyflwyno prosiectau o fewn eu tri nod cyllido.

  • Ymladd tlodi ac amddifadedd
  • Gwella lleoedd, cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol.
  • Gwella iechyd a llesiant.

Rhaid i geisiadau:

  • Ddod gan elusen gofrestredig.
  • Bod am £10,000 neu lai.
  • Fod am ariannu prosiect penodol, sy’n cwrdd ag un o’u tri nod cyllido yn Lloegr, Yr Alban neu Gymru.

Maent yn ffafrio ceisiadau:

  • Oddi wrth elusennau llai (h.y. incwm llai na £1m).
  • Ar gyfer prosiectau yn y cymunedau y mae Morrisons yn eu gwasanaethu.
  • Ar gyfer prosiectau sy’n creu gwaddol neu effaith barhaus.
  • Ar gyfer prosiectau gyda nifer fawr o fuddiolwyr.

Gweler eu gwefan am fanylion ymgeisio a gwybodaeth bellach.