27.02.2026 |
Beth am i chi roi cynnig ar… Chwarae Rhannau Rhydd Naturiol/Gwanwyn
Beth am i chi roi gynnig ar rannau rhydd naturiol yr wythnos hon? Brigau, cerrig, côn pinnau, mwsogl, rhisgl, plu, hyd yn oed bwcedi hen, offer cegin, boncyffion, neu blanciau – gallant i gyd tanio creadigrwydd.
Gweler beth sy’n digwydd pan fydd plant yn arwain chwarae. Efallai y byddant yn adeiladu llochesi, yn gwneud patrymau, neu’n dyfeisio byd hollol newydd. Camwch yn ôl, arsylwch, ac ymunwch dim ond os ydynt yn eich gwahodd.
Gall pob ffon fod yn wialen, pob boncyff yn bont, pob carreg yn gam i antur. Gadewch i’r plant cael blas ar Chwarae sydd wedi cael ei Dewis yn Rhydd, Wedi’i Gyfeirio’n Bersonol ac Wedi’i Gymell yn Gryf.