06.03.2026 |
Ymgysylltu â’r cynllun cydraddoldeb strategol
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn lansio eu cam cyntaf ymgysylltu â’r cyhoedd ar gyfer eu Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd ar gyfer 2027 i 2031, a hoffent nhw glywed eich barn chi.
Mae eu cynllun presennol yn rhedeg rhwng 2022 a 2027 a hoffent adeiladu ar eu cyflawniadau yn eu cynllun nesaf ar gyfer 2027 i 2031.
Helpwch i lunio eu cynllun newydd drwy rannu eich barn ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar ledled Cymru, a pha flaenoriaethau y dylai fod rhwng 2027 a 2031.
Cymerwch ran yn yr arolwg yma.
Drwy gymryd rhan, rydych chi’n helpu:
- dylanwadu ar flaenoriaethau ar gyfer eu cynllun newydd
- cael llais ystyrlon yn y modd y mae nhw’n cefnogi gweithlu mwy amrywiol, cyfartal a chynhwysol.
Mae gennych chi tan 27 Mawrth 2026 i ddweud eich dweud.