20.03.2026 |
Chwarae Cymru Marc Ansawdd: Chwarae o Safon wedi’i Lansio
Chwarae o Safon yw marc ansawdd gwaith chwarae newydd Chwarae Cymru.
Bwriedir i Chwarae o Safon gael ei ddefnyddio mewn lleoliadau gwaith chwarae anrheoleiddiedig, yn ogystal â lleoliadau a reoleiddir gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Mae hefyd yn berthnasol i’r bobl hynny sy’n ymwneud â gwaith chwarae mewn lleoliadau gwaith chwarae amhenodedig.
Dyfernir dau wahanol farc ansawdd gwaith chwarae: y naill yn canolbwyntio ar ymarfer a’r llall ar bolisi. Gall lleoliadau gwaith chwarae weithio tuag at un neu ddau o’r dyfarniadau hyn.
Am ragor o wybodaeth, ewch draw i’r wefan.