27.03.2026 |
Aelodaeth IPA Cymru Wales
Mae aelodaeth IPA Cymru Wales nawr ar agor ac ar gael i bobl sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru. Cynigir amrywiol lefelau aelodaeth ar gyfer unigolion a sefydliadau.
Ymunwch ag IPA Cymru Wales i gefnogi mudiad rhyngwladol sy’n gweithio i warchod, diogelu a hybu hawl y plentyn i chwarae.
Mae’r International Play Association (IPA) yn sefydliad rhyngwladol anllywodraethol a sefydlwyd yn 1961 i warchod, diogelu, a hybu hawl plant i chwarae. Mae gan yr IPA aelodaeth eang ac amrywiol gyda changhennau gweithredol ledled y byd. Mae canghennau’r IPA yn sail ar gyfer rhwydwaith byd-eang ac maent yn cefnogi rhaglenni gwaith a gweithgarwch rhyngwladol yr IPA.
Mae gwaith, gwerthoedd ac egwyddorion IPA Cymru Wales yn cael eu cynnal gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) ac yn benodol Erthygl 31:
“Mae gwladwriaethau sy’n barti yn cydnabod hawl y plentyn i orffwys a hamdden, i chwarae a chymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden sy’n briodol i oedran y plentyn ac i gyfranogi’n rhydd mewn bywyd diwylliannol a’r celfyddydau.”