Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Calisen Impact Charity Trust

A yw eich Clwb yn elusen gofrestredig? Efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn cyllid gan Calisen Impact Charity Trust.

Caiff ceisiadau eu hystyried ar gyfer cymorth ariannol sy’n cyd-fynd â gweledigaeth ac amcanion y Ymddiriedolaeth, ac sy’n darparu canlyniadau cadarnhaol i’r amgylchedd, cymdeithas neu les.